Effaith Coronafeirws ar bobl ifanc
Mae'r genhedlaeth hon o ddysgwyr yn parhau i gael eu heffeithio'n sylweddol gan y profiad o bandemig byd-eang yn ystod eu haddysg orfodol. Maent yn rhannu pryderon eu teuluoedd a'u ffrindiau; maent yn ymdeimlo â galar drwy'r cyfryngau neu'n ei brofi'n uniongyrchol; ac efallai eu bod yn treulio'r diwrnod gydag athrawon dan straen neu mewn profedigaeth yn yr ystafell ddosbarth.
Mae lefelau da o les personol, a theimlo'n ddiogel, yn bwysig ar gyfer addysg, gan eu bod yn rhoi disgyblion yn y ffrâm iawn o feddwl i ddysgu. Yn anffodus, mae'r pandemig yn golygu bod llawer o blant a phobl ifanc yn teimlo'n bryderus, ac yn anniogel. Amcangyfrifir bod gan un o bob chwe phlentyn o oed ysgol yn y DU bellach anhwylder meddyliol adnabyddadwy, cynnydd o un o bob naw yn 2017. Mae'n anochel bod hyn yn cael effaith negyddol ar eu gallu i ddysgu, sy'n golygu canlyniadau a allai newid bywydau cenhedlaeth gyfan.
Isod rydym wedi darparu dolenni cyfeirio i'ch helpu i gefnogi eich disgyblion.