Y cysylltiad rhwng lles athrawon a deilliannau disgyblion
Mae'r berthynas rhwng disgyblion ac athrawon yn ganolog i fywyd yr ysgol ac i ddeilliannau disgyblion. Mae angen ymchwil pellach i ddeall union natur y berthynas rhwng disgyblion ac athrawon, ond mae'n amlwg bod perthynas ddeinamig, dwy ffordd yn bodoli.
Mae'r berthynas hon yn bwysig o ran cyrhaeddiad, mae'n bwysig o ran ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth, mae'n bwysig i ymdeimlad yr athrawon o foddhad ac ymrwymiad ac mae'n wirioneddol bwysig o ran iechyd emosiynol y disgyblion.
Bydd y disgyblion yn dysgu drwy ryngweithio cymdeithasol, nid trwy drosglwyddo gwybodaeth yn unig. Bydd rhyngweithio cymdeithasol mewn ystafell ddosbarth lle mae’r athro dan straen, wedi'i lethu, a heb gymorth, yn wahanol i un lle mae athro ag ymdeimlad cryf o ymreolaeth broffesiynol a hunaneffeithiolrwydd.
P'un ai a ydym yn meddwl am ganlyniadau academaidd neu iechyd emosiynol, mae lles ac iechyd meddwl yr athro yn bwysig. Isod rydym wedi rhannu peth o'r llenyddiaeth sy'n dangos y cysylltiad rhwng lles athrawon a deilliannau disgyblion.