Bod yn esiampl
Mae gan arweinwyr ysgolion gyfle i fod yn esiampl o ymddygiad iach a hwyluso diwylliant sy'n ennyn cefnogaeth, gyda deialog agored, parch a chydnabyddiaeth am berfformiad yn arwain at well dealltwriaeth a thir mwy cyffredin.
Wrth wneud hynny, maent yn gosod sawl cam penodol ac ymhlyg y gall pob aelod o staff eu cymryd i hybu ei llesiant eu hunain. Yn y fideo isod cewch wybod mwy am bwysigrwydd ‘bod yn esiampl’ a sut mae hyn yn cael ei wneud o fewn amgylchedd ysgol.
Rydym hefyd wedi darparu adnoddau i'ch helpu i feddwl am bwysigrwydd ‘bod yn esiampl’ i blant a phobl ifanc.
Pwysigrwydd bod arweinwyr yn dangos esiampl
Bod yn esiampl i blant a phobl ifanc
Fframwaith ar ymgorffori dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol
Mae'r fframwaith hwn wedi'i ddatblygu gan Lywodraeth Cymru. Bwriad y Fframwaith yw cefnogi ysgolion, gan gynnwys unedau atgyfeirio disgyblion (PRUs) a lleoliadau addysg, wrth adolygu eu tirwedd llesiant eu hunain ac wrth ddatblygu cynlluniau i fynd i'r afael â'u gwendidau ac adeiladu ar eu cryfderau. Mae'n cynnwys lles disgyblion a staff.
Gwnewch iddo gyfrif - Canllaw i athrawon: Sefydliad Iechyd Meddwl
Ysgrifennwyd y canllaw hwn gan y Sefydliad Iechyd Meddwl. Mater i athrawon yw eu helpu i greu ystafell ddosbarth ac amgylchedd ysgol lle gall plant ffynnu gydag iechyd meddwl da.