Sgyrsiau adfyfyriol
Drwy ein gwaith gyda staff ac arweinwyr ysgolion, mae Education Support a Talking Heads wedi dysgu pa mor bwerus y gall sgyrsiau adfyfyriol fod. Maent yn cynorthwyo unigolion i gynnal eu lles eu hunain, i gael gwared ar symptomau gorweithio ac i ailgysylltu â'u diben craidd o gefnogi plant a phobl ifanc. Mae myfyrio rheolaidd yn elfen hanfodol o arfer proffesiynol da i bawb sy'n gweithio mewn ysgolion.
Nod y cwrs hwn yw rhoi ffordd syml ac ymarferol i chi archwilio sut y gall myfyrio weithio i chi sydd ar gael am ddim, diolch i gefnogaeth hael Llywodraeth Cymru.
Ni fwriedir i'r e-ddysgu hwn ddisodli nac ailadrodd dyfnder y broses a ddarperir gan oruchwyliaeth, hyfforddiant neu ddysgu gweithredol clinigol neu berthynol ffurfiol. Yn hytrach, mae'n ymateb i'r angen a nodwyd gan lawer o addysgwyr i fyfyrio ynghylch eu gwaith a'i effaith ar eu lles yn ddiogel, heb deimlo ofn na chael eu barnu.