Codi ymwybyddiaeth a lleihau stigma
Yn ôl ein Mynegai Lles Athrawon 2020 mae 30% o weithwyr addysg proffesiynol (35% o athrawon ysgol) o'r farn bod stigma (teimlad o gywilydd) yn eu hatal rhag siarad am broblemau iechyd meddwl yn y gwaith.
Isod fe welwch ganllawiau, sy'n cynnwys adnoddau ymarferol y gellir eu lawrlwytho i helpu i godi ymwybyddiaeth a mynd i'r afael â stigma iechyd meddwl yn eich ysgol gan gynnwys gwybodaeth i gefnogi rôl hyrwyddwyr iechyd meddwl.
Codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl
Mynd i'r afael â stigma
Hyrwyddwyr Iechyd Meddwl
Mae canllaw pwrpasol ar gyfer ysgolion, ac adnoddau ychwanegol, yn dod yn fuan. Yn y cyfamser rydym wedi darparu dolenni i wefan Amser i Newid, sydd â gwybodaeth ac adnoddau cyffredinol ar ddod yn hyrwyddwr iechyd meddwl.
Roedd Amser i Newid yn fudiad cymdeithasol i newid y ffordd y mae pobl yn meddwl ac yn gweithredu am broblemau iechyd meddwl. Dechreuodd yr ymgyrch yn 2007 a daeth i ben ym mis Mawrth 2021. Yn ystod yr ymgyrch, buont yn gweithio gyda 7,500 o hyrwyddwyr â phroblemau iechyd meddwl, 1500 o gyflogwyr a 3,500 o ysgolion uwchradd, colegau a sefydliadau'r sector ieuenctid.