Datblygu eich cynllun iechyd meddwl a lles
Mae datblygu cynllun iechyd meddwl a lles staff yn lle gwych i ysgolion ddechrau wrth amlinellu ymrwymiad i flaenoriaethu lles staff. Mewn cynllun o’r fath gall arweinwyr ysgolion amlinellu meysydd ffocws clir, camau gweithredu a mesurau llwyddiant y cytunwyd arnynt gan nodi’n glir pwy sy'n gyfrifol am gyflawni'r camau gweithredu.
Isod fe welwch dempled cynllun iechyd meddwl i'ch rhoi ar ben ffordd a rhai polisïau enghreifftiol i'ch helpu chi i feddwl am beth i'w gynnwys. Rydym hefyd wedi darparu adnoddau i'ch helpu i weithio gyda staff i ddatblygu eich cynllun a fideo sy’n amlinellu'r prif elfennau ar gyfer cynnwys uwch dimau arwain a gyflwynir gan Faye McGuinness, Cyfarwyddwr Rhaglenni Cymorth Addysg.
Cynllun iechyd meddwl
Maent wedi datblygu'r polisi drafft hwn i gefnogi ysgolion sy'n dymuno defnyddio'r dull safonau rheoli i asesu'r risg o straen yn y gweithle a gwella lles staff. Gall ysgolion ei ddefnyddio fel templed cychwynnol.