Mathau o broblemau iechyd meddwl
Mae nifer o fathau o broblemau iechyd meddwl. Mae'n amhosibl gwybod am bob un ond bydd cael dealltwriaeth sylfaenol o broblemau iechyd meddwl cyffredin, fel gorbryder ac iselder, yn eich helpu i adnabod arwyddion mewn staff a allai fod yn profi'r rhain yn eich ysgol.
Isod rydym wedi darparu dolenni i wefan Mind, sy'n rhoi gwybodaeth am fathau o broblemau iechyd meddwl, opsiynau triniaeth a ble y gall pobl fynd am gymorth.