Beth mae’r ymchwil yn ei ddweud?
Mae ein Mynegai Lles Athrawon 2020 yn gipolwg pwysig ar sut gwnaeth ein hathrawon ymdopi mewn blwyddyn a ddiffiniwyd gan argyfwng.
Mae’n dangos tuedd bryderus o symptomau cynyddol iechyd meddwl gwael, megis hwyliau ansad, anhawster canolbwyntio, methu cysgu, a theimlo’n ddagreuol. Mae hefyd yn tynnu sylw at y pwysau parhaus sydd ar uwch arweinwyr wrth iddynt adrodd y lefelau uchaf o straen o blith holl staff addysg.
Symptomau cynyddol iechyd meddwl gwael:
- 52% yn dweud eu bod wedi dioddef o ddiffyg cwsg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (o’i gymharu â 37% yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf)
- 41% yn ddagreuol (o’i gymharu â 26% yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf)
- 40% yn cael anhawster i ganolbwyntio (o’i gymharu â 23% yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf).
Mae'r proffesiwn wedi profi lefelau cynyddol o straen:
- 62% o athrawon a 77% o uwch arweinwyr yn nodi eu bod dan straen neu dan straen mawr ym mis Gorffennaf, pan oedd y rhan fwyaf o sefydliadau addysgol ar gau i bawb ond y rhai oedd mwyaf agored i niwed.
- 84% o athrawon a 89% o uwch arweinwyr yn adrodd eu bod dan straen neu dan straen mawr ym mis Hydref pan ddychwelodd ysgolion.
Mae cadw staff yn parhau i fod yn bryder cynyddol:
- Dywedodd 51% o athrawon a 59% o uwch arweinwyr eu bod wedi ystyried gadael y proffesiwn eleni oherwydd pwysau ar eu hiechyd a’u lles.
- Dywedodd 68% o weithwyr addysg proffesiynol mai’r rheswm oedd maint y llwyth gwaith (yn codi i 76% ar gyfer uwch arweinwyr)
Mae rhai datblygiadau cadarnhaol.
- Mae mwy o ganllawiau ar iechyd meddwl ar gael i athrawon a staff ysgol.
- Mae gan y rhai sydd wedi profi problemau iechyd meddwl yn y gwaith ganfyddiad cryfach o gael eu cefnogi. Mae ymdeimlad hefyd bod pobl yn cael eu hannog i siarad pan fônt yn cael trafferth.