Trawma ac Anhwylder Straen Wedi Trawma
Gellir disgrifio trawma fel digwyddiad, neu ddigwyddiadau, sy'n arwain at effeithiau seicolegol a sioc. Gellir profi trawma eilaidd er enghraifft, lle mae myfyriwr neu gydweithiwr wedi profi digwyddiad trawmatig, a'ch bod yn teimlo effaith eu trallod. Gellir ei grynhoi fel yr effaith gronnol ar yr addysgwr, o ddelio â digwyddiadau trawmatig sydd wedi digwydd i eraill, er enghraifft colli anwyliaid yn ystod y pandemig.
Mae anhwylder straen wedi trawma (PTSD) yn fath o anhwylder pryder y gallwch ei ddatblygu ar ôl bod yn rhan o ddigwyddiadau trawmatig, neu dyst iddynt.
Mae'r weminar gyntaf isod yn cynnwys cyflwyniad gan yr Athro Neil Greenberg, sy'n seiciatrydd academaidd, galwedigaethol a fforensig. Yn ei gyflwyniad mae'n sôn am drawma, PTSD ac anaf moesol.
Daw'r ail fideo gan Ben Amponsa sy'n Seicotherapyddion, sy'n trafod beth yw trawma, sut mae'n amlygu a sut i adnabod symptomau.
Rydym hefyd wedi darparu dolenni i adnoddau ychwanegol sy'n ymdrin â'r pynciau hyn yn fwy manwl.